Mae ein tudalennau recriwtio ar gael yn Gymraeg drwy glicio ar y botwm Cymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Byddain ddefnyddiol iawn pe gallech nodi a fyddai&©n well gennych gael gohebiaeth gan y tîm Adnoddau Dynol yn y Gymraeg neur Saesneg. Gallwch wneud hyn drwy ateb y cwestiwn am eich dewis iaith gohebiaeth ar y dudalen datganiad wrth wneud cais am swydd yn y Coleg.
Cliciwch ar y ddolen wedi anghofio cyfrinair os ydych chi'n cael trafferth i fewngofnodi i'ch cyfrif recriwtio wrth wneud cais am swydd. Yna, gofynnir i chi nodi'ch enw cyntaf a&©ch enw olaf, eich enw defnyddiwr a hefyd y cyfeiriad e-bost a nodwyd gennych wrth gofrestru.
Wrth wneud cais am swydd gyda ni, os oes gan ymgeisydd anabledd sy&©n dod o dan y diffiniad a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ai fod yn gallu dangos ei fod yn bodlonir meini prawf hanfodol a ddisgrifir ym manyleb y person ar gyfer y swydd y gwneir cais amdani, maer ymgeisydd hwnnw yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer y swydd y maen gwneud cais amdani, trwy ein Cynllun Hyderus o ran Anabledd (y Cynllun Gwarantu Cyfweliad or blaen).
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, diffinnir unigolyn anabl fel rhywun sydd a (neu sydd wedi bod a) nam corfforol neu feddyliol syn cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allur unigolyn hwnnw i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Fel cyflogwr cyfle cyfartal syn hyderus o ran anabledd, rydym yn mynd ati'n weithredol i annog ceisiadau gan bobl sy'n ystyried bod ganddynt anabledd.
I gael mynediad at y cynllun Hyderus o ran Anabledd bydd angen i ymgeisydd sydd ag anabledd:
Bydd ein Tîm Recriwtio yn rhoi cymorth i ymgeiswyr sydd ag anabledd sydd angen cymorth i lenwi cais am gyflogaeth. Anfonwch neges i recruitment@cavc.ac.uk os ydych angen cymorth gyda&©ch cais.
Dim ond yn gwarantu cyfweliad y maer cynllun Hyderus o ran Anabledd, nid yw'n golygu y bydd ymgeiswyr syn cael cyfweliad yn cael cyflogaeth gydar Coleg ar yr adeg honno. Bydd adborth ar ganlyniadaur cyfweliad yn cael ei roi i bob ymgeisydd yn unigol ac mewn ffordd y maer ymgeisydd wedi cytuno syn bodloni ei anghenion personol orau.
Yn dilyn eich cais, efallai y byddwch yn cael gohebiaeth gennym ynglyn ach cais felly gwnewch yn siwr bod Recruitment@cavc.ac.uk a Noreplycavc@webitrent.com ar eich rhestr o anfonwyr diogel neu edrychwch yn eich ffolderi sbam.